Adroddiad Drafft y Pwyllgor Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Teitl: Gorchymyn Deddf Gwella'r Fenni 1854 (Diddymu) 2012
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed o dan adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, yn diddymu adran 28 o Ddeddf Gwella’r Fenni 1954 (gan gynnwys i’r graddau y mae adran 26 o’r Ddeddf honno’n cael effaith mewn perthynas ag adran 28) oherwydd nad yw’r adran honno’n berthnasol nac yn angenrheidiol bellach ac fe’i disodlwyd i raddau helaeth gan Ddeddf Bwyd 1984.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn/offeryn drafft hwn.
Rhinweddau: craffu
O dan Reol Sefydlog 2.13(ii) (ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad), gwahoddir y Cynulliad i roi sylw arbennig i’r offeryn a ganlyn.
Rhoddodd adran 58 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 y pwerau i’r Ysgrifennydd Gwladol ddiddymu Deddfau lleol (neu ddarpariaethau penodol ohonynt) lle yr ymddangosir eu bod yn ddarfodedig, yn amherthnasol neu’n ddianghenraid neu eu bod wedi’u disodli i raddau helaeth [gan ddeddfwriaeth arall sy’n ymdrin â’r un pwnc].
Trosglwyddwyd y pŵer i’r Cynulliad Cenedlaethol drwy’r Gorchymyn, the National Assembly for Wales (Transfer of Functions) Order 1999 (Saesneg yn unig), a bellach fe’u trosglwyddwyd i Weinidogion Cymru.
Dyma’r tro cyntaf i’r pŵer hwn gael ei ddefnyddio, cyn belled ag y gellir cadarnhau hynny, ers trosglwyddo’r pŵer ym 1999 a’i drosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru. Yn sgîl hynny, gwahoddir y Cynulliad i roi ystyriaeth arbennig i’r Gorchymyn hwn o dan Reol Sefydlog 21(3)(ii).
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
5 Mawrth 2012